Mae rhaglen cyflogaeth a gefnogir Cam 2 Gofal Plant ar Waith NDNA Cymru, yn cefnogi Cynllun 10-mlynedd y Gweithlu Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru er mwyn datblygu gweithlu gofal plant a chwarae â sgiliau uchel.
Mae prosiect cam 2 Gofal Plant ar Waith NDNA, sydd wedi ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru, yn anelu at weithio gydag 84 o bobl 25 mlwydd oed neu drosodd am 16 wythnos, gan roi hyfforddiant a chyflogaeth a gefnogir yn y lleoliadau gofal plant a blynyddoedd cynnar. Mae’n cefnogi unigolion ledled Cymru i sicrhau cyflogaeth, hyfforddiant neu brentisiaeth yn y dyfodol yn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Yn flaenorol, roedd NDNA Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar gam 1 y prosiect hwn, yn Sir y Fflint a Wrecsam yn ystod 2018. Cewch ddarllen am gam un prosiect Gofal Plant ar Waith
yma.
Rydym yn awr yn edrych am Gynorthwywyr Meithrinfa dan hyfforddiant a fyddai’n hoffi bod yn rhan o brosiect Gofal Plant ar Waith a meithrinfeydd er mwyn rhoi iddynt gyfleoedd gweithio mewn lleoliadau gwaith.